Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

SOC(4)-04-13: Papur 1 - dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2013

Ystyried argymhellion GRECO (Grŵp o Wladwriaethau yn erbyn Llygredigaeth)

Diben

1.   Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried yr argymhellion a wnaed gan Grŵp o Wladwriaethau yn erbyn Llygredigaeth (GRECO) Cyngor Ewrop, yn ei bedwerydd cylch o werthuso’r Deyrnas Unedig, a chytuno ar unrhyw gamau pellach yr hoffai eu cymryd fel rhan o’r adolygiad presennol o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a chanllawiau cysylltiedig.

2.   Dylid ystyried y papur hwn ochr yn ochr â’r ‘Cod Ymddygiad ar gyfer Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad’, a’r ‘Canllawiau i Aelodau’r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau’. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am oruchwylio’r trefniadau ar gyfer y Gofrestr Buddiannau, a chytunodd i ddiweddaru’r canllaw hwn fel rhan o gyfnod 2 presennol yr adolygiad o weithdrefnau safonau.  

Cefndir

3.   Mae’r Grŵp o Wladwriaethau yn erbyn Llygredigaeth (GRECO) yn monitro a yw ei 49 o aelod-wladwriaethau yn cydymffurfio ag offerynnau gwrth-lygredigaeth Cyngor Ewrop[1]. Mae’r DU wedi bod yn aelod o GRECO er 1999. Mae GRECO yn gwerthuso’r trefniadau mewn aelod-wladwriaethau’n rheolaidd ac yn gwneud argymhellion, gyda’r bwriad o wella gallu gwladwriaethau i ymladd yn erbyn llygredigaeth ac i hyrwyddo uniondeb."

4.   Roedd adroddiad Pedwerydd Cylch Gwerthuso diweddaraf GRECO am Senedd, barnwyr ac erlynwyr y DU yn gadarnhaol ar y cyfan.

5.   Ymwelodd y tîm gwerthuso (GET) â’r DU yn 2012. Roedd y tîm yn cynnwys Mr Hugh Geoghegan, sydd wedi ymddeol o’i waith fel barnwr Goruchaf Lys Iwerddon, Ms Jane Ley, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa Moeseg Llywodraeth yr Unol Daleithiau, Mr José Manuel Igreja Martins Matos, Barnwr o Bortiwgal ac Is-lywydd Grŵp Ibero-Americanaidd Cymdeithas Ryngwladol y Barnwyr, a Ms Marja Tuokila, Cwnsler Pwyllgor Materion Cyfreithiol Senedd y Ffindir. Cyfrannodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru at y broses werthuso drwy Bennaeth Llywodraethu ac Archwilio’r Cynulliad, a chyn-glerc y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

6.   Gan ganolbwyntio ar y Senedd, mae’r adroddiad gwerthuso yn cydnabod y camau a gymerwyd i gryfhau rheolaeth ariannol yn San Steffan yn dilyn y ddadl ynglŷn â threuliau. Mae hefyd yn annog cryfhau ymhellach ddulliau tryloywder ac atebolrwydd i Aelodau Seneddol.  Nodwyd cynlluniau i reoleiddio lobïo ac i ddatblygu ymhellach ddulliau mewnol sy’n atal ac yn cosbi camymddygiad.   

7.   Gwnaeth yr adroddiad bum argymhelliad yn ymwneud â Senedd y DU, ac mae pedwar o’r rheini hefyd wedi’u cyfeirio’n benodol at y deddfwrfeydd datganoledig, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff y modd y caiff yr argymhellion eu rhoi ar waith ei asesu gan GRECO yn ystod ail hanner 2014 drwy ei weithdrefn gydymffurfio.

8.   Aeth y Pwyllgor Seneddol ar Safonau i’r afael â’r argymhellion mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar 13 Mawrth 2013[2] ac mae ei gasgliadau wedi’u crynhoi isod, ochr yn ochr ag argymhellion GRECO. Bydd y Tŷ yn ystyried yr argymhellion pan fydd yn ystyried Canllaw diwygiedig i Reolau Ymddygiad Aelodau Seneddol. Disgwylir i Dŷ’r Arglwyddi hefyd ystyried argymhellion GRECO yn fuan. Nid yw Senedd yr Alban na Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi eu hystyried yn ffurfiol eto.

Atebolrwydd Aelodau dros ymddygiad staff

Argymhelliad GRECO:

 

i. that, pending any introduction of an accountability system for staff conduct, it should be made clear that Members of the House of Commons and Members of the House of Lords can be responsible for the conduct of their staff when carrying out official duties on behalf of the Member and that, unless otherwise specified, the conduct of the staff should be judged against the standards expected of the Members. The devolved institutions of Wales and Northern Ireland should be invited similarly to take action in accordance with the recommendation (paragraff 33);

 

9.   Wrth wneud yr argymhelliad hwn, nododd GET nad oedd Codau Ymddygiad Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin yn nodi bod Aelodau’n gyfrifol am ymddygiad eu staff personol pan fydd yr unigolion hynny’n cyflawni dyletswyddau swyddogol ar ran yr Aelod (yn gweithredu fel asiant i’r Aelod mewn gwirionedd). Roedd GET yn croesawu’r ffaith bod atebolrwydd Aelodau dros eu staff yn cael ei gynnwys yng Nghod Ymddygiad Senedd yr Alban.

 

10.        Cafwyd ar ddeall hefyd nad yw aelodau o staff yn San Steffan yn destun unrhyw god ymddygiad arall, ond mae gofyn i rai gofrestru buddiannau perthnasol. Gall y Comisiynwyr perthnasol ymchwilio i achosion o fethu â chofrestru buddiannau.

 

11.        Rhoddwyd gwybod i GET am achosion yn y gorffennol lle cafodd Aelodau Seneddol eu dal yn gyfrifol  am weithredoedd eu staff (e.e. torri rheolau cyfrinachedd, ymgyrchu mewn etholiadau), ond bod y dull atebolrwydd a roddwyd ar staff yr Aelodau’n dibynnu ar yr amgylchiadau yn absenoldeb rheol glir. Nodwyd yn yr adroddiad:

 

“Since many of the staff are paid from public funds and supervised by the Member when carrying out official duties on his/her behalf, the GET believes that a clear and effective system of accountability for staff actions is also of key importance to the actual and perceived integrity of Parliament.”

 

12.        Mae Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin wedi ymateb drwy nodi bod systemau atebolrwydd eisoes ar waith ar gyfer staff yr Aelodau, a bod paragraff cyntaf y Canllaw diwygiedig arfaethedig ar Reolau Aelodau Seneddol yn cynnwys troednodyn i’w wneud yn glir:  “Members are personally responsible for their adherence to the Code even when breaches may have been caused by the actions of a member of staff.” Mae’r Pwyllgor hefyd yn dweud y bydd yn parhau i ddal Aelodau Seneddol yn gyfrifol am weithredoedd eu staff, pan fydd yn briodol i wneud hynny.

 

13.        Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad lofnodi Cod Ymddygiad sy’n rhan o’u hamodau gwaith gan yr Aelod, ac mae’n seiliedig ar egwyddorion Nolan ar safonau mewn bywyd cyhoeddus. Mae’r Cod yn cynnwys meysydd allweddol fel priodoldeb, cyfrinachedd, swyddi y tu allan i’r gwaith a gweithio gydag eraill. Gall torri’r cod arwain at gamau disgyblu a hyd yn oed diswyddo. Y Cynulliad yw’r ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i ddatblygu Cod Ymddygiad ar gyfer Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad.

 

Camau i’r Pwyllgor eu cymryd:

 

Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried a) a yw’r Cod Ymddygiad ar gyfer Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad yn bodloni argymhellion GRECO ynghylch atebolrwydd Aelodau dros ymddygiad eu staff personol pan fydd yr unigolion hynny’n cyflawni dyletswyddau swyddogol ar ran yr Aelod, a b) a ddylai Cod Ymddygiad diwygiedig y Cynulliad gyfeirio at y systemau atebolrwydd sydd ar waith yng Nghymru.*

 

*Dylid cynnwys unrhyw newidiadau yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys geiriad diwygiedig ‘Egwyddorion Nolan’ yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus) hefyd yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad a roddir i staff cymorth fel rhan o’u contract gwaith drwy Gymorth Busnes yr Aelodau.

 

Trothwyon ar gyfer cofnodi daliadau ariannol

 

Argymhelliad GRECO:

 

ii. that consideration be given to lowering the thresholds for reporting financial holdings (such as stocks and shares). The devolved institutions of Scotland, Wales and Northern Ireland should be invited similarly to take action in accordance with the recommendation (paragraff 41);

 

14.        Wrth wneud yr argymhelliad hwn ynghylch cofrestru buddiannau, mae GRECO yn nodi bod rhai categorïau o fuddiannau ariannol yn parhau i fod yn destun gwerthoedd trothwy cyn gorfod eu cofrestru  – “For example, there are no limitations on the number or value of company shares, bonds and notes which can be held by Members of Parliament as long as they are reported when their value reaches a certain threshold.”

 

15.        Mae’r trothwyon ar gyfer cyfranddaliadau wedi’u nodi yn Nhabl 3 yr adroddiad, fel a ganlyn:

 

 

 

Tŷ’r Cyffredin

Tŷ’r Arglwyddi

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Senedd yr Alban

Cyfranddaliadau

Mwy na 15 % o gyfalaf cyfranddaliadau’r cwmni a gyhoeddwyd  neu 15% neu lai o’r cyfalaf a gyhoeddwyd, ond yn fwy na’r cyflog seneddol presennol  (£66,000)

Yn dod i gyfran reolaethol neu heb fod yn dod i gyfran reolaethol ond yn fwy na £50,000 mewn gwerth

Gyda gwerth ar y farchnad sy’n llai nag 1 % o’r cyfalaf cyfranddaliadau a gyhoeddwyd lle mae gwerth y cyfranddaliadau hynny’n fwy na 50% o’r cyflog blynyddol gros sylfaenol (£26,926)

Mae gwerth nominal y cyfranddaliadau’n fwy nag 1 % o gyfanswm gwerth y cyfalaf cyfranddaliadau a gyhoeddwyd neu’r gwerth ar y farchnad neu mae’r cyfranddaliadau’n fwy na 50 % o gyflog presennol Aelod Cynulliad (£21,550)

Mae gwerth nominal y cyfranddaliadau’n fwy nag 1 % o gyfanswm gwerth y cyfalaf cyfranddaliadau a gyhoeddwyd neu mae gwerth y cyfranddaliadau ar y farchnad yn fwy na 50 % (£28,760)o gyflog presennol Aelod Cynulliad

 

 

16.        Wrth ddod i’r casgliad bod y trothwyon yn rhy uchel, mae’r adroddiad yn rhoi enghraifft o Aelod Seneddol a allai fod â buddsoddiad o £60,000 ym mhob un o’r 10 darparwr gwasanaeth ffôn symudol ac ni fyddai’r un ohonynt yn ymddangos ar y gofrestr. Mae’n derbyn y dadleuon y byddai disgwyl i’r Aelod, er gwaethaf y trothwyon, gadw at y rhwymedigaeth gyffredinol sydd ar Aelodau i ystyried y diffiniad cyffredinol o ddiben y Gofrestr (bod yn agored) wrth gofrestru eu buddiannau; ac os nad yw rhai buddiannau’n dod yn union o fewn un o’r categorïau penodol, disgwylir i Aelodau gofrestru buddiannau o’r fath o dan "amrywiol" (yn Senedd yr Alban mae categori ‘gwirfoddol’ ar y gofrestr i’r Aelodau ddatgan buddiannau o’r fath). Yn ychwanegol at hyn, byddai gofyn i’r Aelod Seneddol ddatgan buddiant yn y diwydiant cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau seneddol a fyddai’n effeithio ar ddarparwyr gwasanaeth ffôn symudol yn ôl y rheolau ar ddatgan buddiannau. Ond mae GRECO yn mynd ymlaen i ddweud:

 

“That however, would give the public little or no notice of the interest before the Member acted and the purpose of the Registers is to give public notice of those interests which might be thought to influence a Member’s conduct. The GET takes account of these arguments, but is not fully convinced that these are sufficient, and efficient, safeguards for openness and transparency of a Member’s financial interests, not only in theory, but also in practice. The GET notes that the high threshold for reporting these types of interests (as opposed to remunerated services) reflects a policy priority on registering interests where actual payments are involved (earned income, lobbying for a fee, and expenses), rather than investments. However, the GET is of the view that a Member may be more influenced by the effect of a matter on his/her stocks than by the receipt of a payment for a speech.” [print trwm wedi’i ychwanegu]

 

17.        Defnyddir yr un fformiwla i gyfrifo trothwyon ar gyfer cofrestru cyfranddaliadau yn y tri sefydliad datganoledig, ac mae’r ffigurau trothwy yn sylweddol is nag yn San Steffan. Fodd bynnag, mae’r egwyddor yn ymwneud ag amlgyfranddaliadau’n parhau i fodoli yng Nghymru. Ar gyfer yr enghraifft a roddwyd gan GRECO o gyfranddaliadau mewn darparwyr ffonau symudol, gallai Aelod Cynulliad ddal cyfranddaliadau gwerth bron i £27,000 mewn unrhyw nifer o gwmnïau mewn maes perthnasol o ddiddordeb, heb iddo orfod cyhoeddi’r wybodaeth honno.

 

Cymharu’r rheolau a’r canllawiau ar gofrestru a datgan

 

18.        Mae’r canllawiau presennol i Aelodau’r Cynulliad ar gofrestru buddiannau’n nodi, mewn perthynas â datgan buddiannau (ond nid  cofnodi buddiannau yn y lle cyntaf) “The main policy behind the requirement for a declaration of interest is to ensure that Assembly Members and the public are aware of any financial or other interest which might reasonably be thought to be relevant to the proceedings in which the Member wishes to speak.” Mae’r canllawiau hefyd yn nodi’n glir y pwysigrwydd bod Aelodau’n datgan buddiannau a all fod ganddynt yn y dyfodol, yn ogystal â’r rheini sydd ganddynt eisoes.

 

19.        O ran cofrestru cyfranddaliadau, nid yw canllawiau presennol y Cynulliad yn cyfeirio at: a) rwymedigaeth gyffredinol i ystyried y diffiniad cyffredinol o ddiben y Gofrestr (bod yn agored) wrth gofrestru buddiannau; b) os nad yw rhai buddiannau’n dod yn union o fewn un o’r categorïau penodol, mae disgwyl i Aelodau gofrestru buddiannau o’r fath o dan gategori "amrywiol"; neu c) gofyniad penodol i ddatgan buddiant sy’n codi o amlgyfranddaliadau mewn diwydiant neu faes gwasanaeth arbennig cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau seneddol sy’n effeithio ar y diwydiant neu’r maes gwasanaeth hwnnw.

 

20.        Mae’n rhaid i Aelodau’r Cynulliad fod yn hollol glir ynghylch pa fuddiannau y mae’n rhaid iddynt eu cofrestru, yn enwedig o ystyried y goblygiadau troseddol posibl o fethu â chofrestru o dan Adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni allai cofrestr y Cynulliad felly gynnwys categori ‘amrywiol’ neu ‘wirfoddol’ oni bai bod hyn yn cael ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog newydd ar wahân. Byddai hyn yn gwahaniaethu’n glir rhwng buddiannau sy’n cael eu cofrestru a / neu eu datgan yn wirfoddol, a’r categorïau o ddiddordeb sy’n bodoli eisoes ac sy’n destun darpariaethau Adran 36(7).

 

21.        Wrth ymateb i GRECO, mae Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin yn tynnu sylw at y ffaith bod ei drothwy ar gyfer cofrestru daliadau unigol yn dilyn argymhelliad y Comisiynydd Seneddol ac mae bron heb ei newid, ond bod y Canllawiau i’r Rheolau ar gyfer Aelodau Seneddol yn nodi y dylid cofrestru cyfranddaliadau sy’n disgyn o dan y trothwy o dan y categori amrywiol “if the Member nevertheless considers that it meets the test of relevance; in other words, that it might reasonably be thought by others to influence his or her actions or words as a Member.” Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud bod y gofyniad i ddatgan buddiannau’n mynd y tu hwnt i’r gofynion cofrestru, i "non-registrable interests of a financial nature when these are affected by the proceedings in question". Mae’r canllawiau diwygiedig yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy clir bod y gofyniad hwn yn ymestyn i:

 

“Financial interest of a sort which do not require registration, including for example blind trusts, and interests which fall below the financial threshold.”

 

Cofrestru ymddiriedolaethau dall a buddiannau ‘amrywiol’ eraill

 

22.        Efallai y bydd y Pwyllgor hwn yn cofio i gofrestru ymddiriedolaethau dall gael ei godi mewn papur a ystyriwyd ar 18 Hydref 2011 (SOC(4)-01-11 : Papur 3), ac nad yw’r canllawiau presennol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn cynnwys gofyniad i ddatgan neu gofrestru manylion am ymddiriedolaethau o’r fath.

Yn y Cynulliad, cyfrifoldeb yr Aelod yw barnu a oes angen datganiad ffurfiol yn nhrafodion y Cynulliad.  Nodir y gofynion yn Rheol Sefydlog 2.6 a 2.7. Mae cymryd rhan mewn trafodion heb wneud datganiad ‘gofynnol’ yn drosedd o dan adran 36(7)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru.

 

Yn gyffredinol, mae’n rhaid i Aelodau wneud datganiad llafar o unrhyw fuddiannau sydd wedi’u cynnwys yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2 ond dim ond os yw penderfyniad penodol yn golygu mwy o fantais ariannol i’r Aelod, priod yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol yr Aelod, nag i’r rhai y mae’r penderfyniad yn effeithio’n gyffredinol arnynt".

 

Os oes angen datganiad ffurfiol, gall Aelodau gymryd rhan yn y ddadl (yn dilyn y datganiad) ond ni chânt bleidleisio.

 

Prawf perthnasedd

 

23.        Yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’r Canllawiau i’r Rheolau’n cynnwys ‘prawf perthnasedd’ i Aelodau Seneddol ei ddefnyddio wrth benderfynu pa un ai i wneud datganiad ai peidio: 

 

“It is the responsibility of the Member, having regard to the rules of the House, to judge whether a financial interest is sufficiently relevant to a particular debate, proceeding, meeting or other activity to require a declaration. The basic test of relevance should be the same for declaration as it is for registration of an interest; namely, that a financial interest should be declared if it might reasonably be thought by others to influence the speech, representation or communication in question. A declaration should be brief but should make specific reference to the nature of the Member’s interest.”

 

24.        Mewn perthynas â phleidleisio, mae’r canllawiau ar y Rheolau’n nodi:

 

“For the purpose of taking part in any division in the House or in Committee, it is sufficient for the relevant interest to be disclosed in the Register of Members’ Financial Interests. A Member should seek to ensure prior to a vote taking place that any relevant interest is registered, or, where it is not, should register the interest immediately after the vote.”

 

25.        Mae’r un darpariaethau ar gyfer prawf perthnasedd ac mewn perthynas â phleidleisio’n bodoli yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

 

26.        Byddai’n anodd sefydlu ‘prawf perthnasedd’ tebyg yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o ystyried y goblygiadau troseddol posibl, oni bai bod y prawf perthnasedd yn ymwneud â ‘datganiadau anffurfiol’ yn unig.  Nid oes unrhyw ganllawiau i Aelodau’r Cynulliad yn ymwneud â’r arfer o wneud datganiadau anffurfiol, ac mae hwn hefyd yn fater y gallai’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei ystyried wrth adolygu’r canllawiau presennol.

 

Datgan ‘rhesymol’

 

27.        Wrth ymateb i adroddiad GRECO, mae Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin hefyd yn nodi’r mater o ddiffinio’r hyn y gellid ei ystyried yn ‘rhesymol’ i’w ddatgelu, a’r cydbwysedd rhwng preifatrwydd a bod yn agored.  Yn Ffrainc mae’n rhaid i aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan buddiannau i’r Comisiynydd Seneddol ond cedwir y rhain yn breifat, ac mae Tŷ’r Cyffredin wedi penderfynu y dylai ei Gofrestr fod yn ddogfen gyhoeddus ond nid yn ddatganiad cyfoeth llawn. Cred y Pwyllgor fod y cydbwysedd presennol yn eithaf cywir, a bod "leaving aside questions of privacy, too low a threshold could obscure significant matters in a blizzard of trivial details." Dywed hefyd y dylai’r rheoliad fod yn gymesur, a bod penderfyniadau sylweddol yn cael eu gwneud gan y Tŷ cyfan, y Pwyllgorau neu’r Gweinidogion, ac nid gan Aelodau unigol.

 

Camau i’r Pwyllgor eu cymryd:

 

Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried a) a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r trothwy presennol ar gyfer cofrestru cyfranddaliadau; a b) a ddylai’r adolygiad o’r Canllawiau ar Gofrestru a Datgan Buddiannau gynnwys ystyried gwelliannau i ystyried y pwyntiau a wnaed uchod.

 

Rhoddion

 

Argymhelliad GRECO:

 

iii. (i) providing clearer guidance for Members of the House of Commons and the House of Lords concerning the acceptance of gifts, and (ii) that consideration be paid to lowering the current thresholds for registering accepted gifts. The devolved institutions of Scotland, Wales and Northern Ireland should be invited similarly to take action in accordance with the recommendation (paragraff 46);

 

28.        Ymddengys bod y rhan hon o’r adroddiad yn canolbwyntio ar yr arfer yn San Steffan, ond mae’r adroddiad yn nodi: 

 

“The GET found very little by way of advice or counselling to Members as to their expected conduct when receiving gifts. In this connection, the GET notes that there is no general ban on Members accepting gifts similar to that applicable to UK Ministers, civil servants or judges where it is acknowledged that the receipt of a gift might be seen to compromise personal judgement or integrity. In the GET’s view, it would be helpful if a clearer line would be drawn and explained to Members and the general public on such issues as, for example what can be considered an acceptable gift (e.g. what constitutes ordinary hospitality), the relationship between a benefit and paid advocacy etc.”

 

29.        Mae’r adroddiad yn nodi bod y trothwy ar gyfer cofrestru rhoddion a dderbyniwyd yn sylweddol is yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, gan ei fod yn 0.5% o’r cyflog blynyddol gros sylfaenol, yn hytrach nag yn 1% o’r cyflog sy’n berthnasol yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn yr Alban (h.y. £270 i Aelodau’r Cynulliad o’i gymharu â £575 i Aelodau o Senedd yr Alban a £660 i Aelodau Seneddol). Fodd bynnag, mae’n nodi bod y trothwy i Weinidogion y DU yn llawer is, ar £140, ac mae’n argymell bod y sefydliadau datganoledig yn ystyried gweithredu’n unol â’r argymhelliad.

 

30.        Mae cynigion gan Bwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin i ostwng y trothwy ar gyfer Aelodau Seneddol, i roddion dros £300 o un ffynhonnell mewn blwyddyn unigol. Teimla’r Pwyllgor y dylai Aelodau Seneddol ddefnyddio’u barn i benderfynu pa un ai i dderbyn rhoddion a lletygarwch ai peidio, ac o ystyried yr amrywiaeth o amgylchiadau unigol, bod canllawiau cyffredinol yn anymarferol. Dylai Aelodau hefyd ystyried yn ofalus faint a phriodoldeb unrhyw roddion neu letygarwch a gânt, gan ystyried gofynion y Cod Ymddygiad a’r Canllawiau i’r Rheolau.

 

31.        Mae’r canllawiau i Aelodau’r Cynulliad ar gofrestru buddiannau’n cynnwys adran ar gofrestru rhoddion – categori (iv). Nid yw’r Cynulliad yn cymryd yr un agwedd â Thŷ’r Cyffredin, gan fod pob rhodd yn cael ei hystyried ar wahân yn erbyn y trothwy, hyd yn oed os yw’n dod o’r un ffynhonnell. Penderfynodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad beidio â mabwysiadu’r agwedd ‘gronnol’ hon tuag at gofrestru rhoddion yn y gorffennol. Mae’r canllawiau hefyd yn gofyn i Aelodau’r Cynulliad nodi y gallai cofrestru o dan y trothwy rhagnodedig arwain at wneud cymariaethau anffafriol rhwng y rheini sy’n bodloni gofynion y Ddeddf a’r Rheolau Sefydlog yn llawn a’r rheini sy’n dewis mynd y tu hwnt iddynt.

 

32.        Mae categori (v) o’r gofrestr hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestru unrhyw daliadau neu elw penodol gan gwmni cyhoeddus neu breifat – ac nid oes unrhyw drothwy ar gyfer hyn.  Byddai angen nodi unrhyw roddion neu letygarwch nad ydynt i’w cofrestru o dan gategori (iv) uchod, ond a roddwyd gan gwmni sydd â chysylltiadau cytundebol â’r Cynulliad, yn y categori hwn

 

33.        Nid yw Cod Gweinidogol Cymru yn annog Gweinidogion i dderbyn rhoddion. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i roi gwybod i’r Is-adran Gwasanaethau Gweinidogol am bob rhodd a bod manylion am roddion sy’n werth mwy na £260 yn cael eu cyhoeddi (sy’n gyson â’r trothwy ar gyfer holl Aelodau’r Cynulliad). Mae unrhyw newid i amodau Cod Gweinidogol Cymru yn fater i’r Prif Weinidog.

 

Camau i’r Pwyllgor eu cymryd:

 

Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried a) a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r trothwy presennol i Aelodau Cynulliad unigol gofrestru rhoddion a dderbyniwyd, a b)  a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r canllawiau i Aelodau’r Cynulliad ar dderbyn rhoddion.

 

Safonau lobïo a chanllawiau

 

Argymhelliad GRECO:

 

v. that the Codes of Conduct and the guidance for both the Commons and the Lords be reviewed in order to ensure that the Members of both Houses (and their staff) have appropriate standards/guidance for dealing with lobbyists and others whose intent is to sway public policy on behalf of specific interests. The devolved institutions of Wales and Northern Ireland should be invited similarly to take action in accordance with the recommendation (paragraff 53);

 

34.        Mae paragraffau 49-53 o adroddiad GRECO yn ystyried y gwaharddiad ar eiriolaeth y telir amdano, lobïo a chysylltu â thrydydd parti.  Gwneir argymhelliad GRECO beth bynnag fydd canlyniad y cynnig deddfwriaethol ar gofrestr statudol o lobïwyr. Gan nodi hynny, mae angen i’r ddwy ochr (y lobïwr a’r person sy’n cael ei lobïo) weithredu’n briodol mewn perthynas â’i gilydd er mwyn i’r broses lobïo fod yn hollol fuddiol.  

 

Camau i’r Pwyllgor eu cymryd:

 

Mae’r Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol yn ddiweddar a gwnaeth argymhellion yn unol â’r argymhelliad hwn gan GRECO.

 

Sancsiynau

 

Argymhelliad GRECO:

 

v. (i) reviewing the available disciplinary sanctions for misconduct of Members of the House of Commons and Members of the House of Lords in order to ensure that they are effective, proportionate and dissuasive; and (ii) better describing in the relevant guidance to the Codes of Conduct the applicable sanctions for breaches of the rules (paragraff 73);

 

35.        Gwneir yr argymhelliad yng nghyd-destun cydnabyddiaeth GET bod “camau cadarnhaol” yn cael eu cymryd yn nau Dŷ’r Senedd yn y gobaith o geisio ennill rhywfaint o’r ymddiriedaeth a gollwyd yn yr achos yn ymwneud â threuliau”. Nid yw’r argymhelliad wedi ei ymestyn i’r sefydliadau datganoledig, a beth bynnag, mae Pwyllgor Safonau’r Cynulliad a Chomisiynydd Cymru wedi adolygu trefniadau cosbi yng Nghymru ac wedi gwneud argymhellion yn ddiweddar i’r Pwyllgor Busnes o ganlyniad i hynny. [3]

 

Y camau nesaf

36.        Mae’r adroddiad yn nodi: “Pursuant to Rule 30.2 of the Rules of Procedure, GRECO invites the authorities of the United Kingdom to submit a report on the measures taken to implement the above-mentioned recommendations by 30 April 2014. These measures will be assessed by GRECO through its specific compliance procedure.”

 

37.        Wrth fonitro cydymffurfiaeth, mae GRECO yn nodi: “A dynamic process of mutual evaluation and peer pressure is applied, combining the expertise of practitioners acting as evaluators and state representatives sitting in plenary.” Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yw’r brif adran ar gyfer cysylltu â GRECO. Mae wedi dweud y bydd tîm GRECO yn cynnal adolygiad o’r cynnydd ond GRECO fydd yn penderfynu sut i wneud hyn. Gall fod drwy ddeialog â rhywun yn yr Adran Gyfiawnder, neu drwy siarad â phobl yn ehangach neu drwy gynnal ymweliad dilynol mwy ffurfiol.  

Camau i’r Pwyllgor eu cymryd

38.        Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried y papur ac a yw’n dymuno cymryd unrhyw gam(au) pellach mewn perthynas ag argymhellion GRECO ar y pryd hwn.

 



[1] Mae aelodaeth o GRECO yn agored, ac yn gyfartal, i aelod-wladwriaethau o Gyngor Ewrop ac i wladwriaethau nad ydynt yn aelod o’r Cyngor. Mae’r adroddiadau gwerthuso a chydymffurfio a fabwysiadwyd gan GRECO, yn ogystal â gwybodaeth arall am GRECO, ar gael yn: www.coe.int/greco.

[2] Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin - Canllawiau i’r Rheolau yn ymwneud ag Ymddygiad Aelodau: Adroddiad GRECO a Datblygiadau eraill, Adroddiad Cyntaf Sesiwn 2012-13, a gyhoeddwyd ar 13 Mawrth 2013.

[3] Adroddiad 04-13 y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i’r Cynulliad ar Sancsiynau, Mai 2013.